Canllawiau a ffurflenni

Ffurflenni cais

Pensiwn y Wladwriaeth

Pensiwn y Wladwriaeth [BR1W] – [ffeil PDF 392kb]
Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth os ydych llai na phedwar mis i ffwrdd o’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Argraffwch y ffurflen, ei llenwi a’i phostio i’ch canolfan bensiynau neu swyddfa leol.

Anfonwch y ffurflen hon i’ch swyddfa Gallwch wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth dros y ffôn. Mae hyn yn broses gyflym ac effeithlon ac bydd yn eich helpu i sicrhau eich bod yn derbyn eich taliad cyntaf ar amser. Y rhif i ffonio yw 0845 300 1084. Yn ystod y galwad byddwch yn cael eich cynghori am Fudd-daliadau/cynnyrch eraill e.e Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor efallai sydd gennych hawl iddynt. Gallwn hefyd ddal unrhyw anghenion cyfathrebu rydych angen fel print bras. Mewn mwyafrif o achosion gall manylion eich hawliad/ dyfarniad gael ei roi ar ddiwedd y galwad.

Gellwch hefyd wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth ar lein

Gallwch ofyn bod copïau o ganllawiau’r Gwasanaeth Pensiwn yn cael eu hanfon atoch drwy’r post. Gallwch archebu copïau ar-lein neu archebu copïau dros y ffôn

Mae ein canllawiau hefyd ar gael yn Braille neu ar gasét sain

Sut i ddarllen neu argraffu canllawiau a ffurflenni

I ddarllen y canllawiau ar-lein, neu i’w hargraffu, mae angen i chi osod Adobe Reader ar eich cyfrifiadur. Os nad oes gennych Adobe Reader eisoes, gallwch ei gael o wefan Adobe

Ffyrdd eraill o ddarllen canllawiau

Os ydych yn defnyddio meddalwedd darllenydd sgrîn neu borwr gwe â sain mae Adobe yn darparu offeryn ar-lein am ddim y gallwch ei ddefnyddio i drosi’r canllawiau i ffurf testun clir (‘plain text’).

I ddefnyddio offeryn ar-lein Adobe:

1. Dewch o hyd i’r cysylltiad ar y wefan hon i’r canllaw rydych am ei ddarllen, a’i gopïo
2. Ewch i offeryn ar-lein Adobe
3. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn

Bydd yr offeryn yn dangos y canllaw rydych wedi’i ddewis fel tudalen ar y we (HTML) neu fel testun clir.

Gallwch ddarllen rhagor am Adobe Reader a hygyrchedd ar wefan Adobe